Nid yw pob gwasanaeth yn gweithredu yr un fath ag arfer.
Fel arfer caiff y dudalen ei diweddaru rhwng 9am-5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio Gwyliau Banc a’r dyddiau eraill y bydd y brifysgol ar gau.
Enw Gwasanaeth | Statws Gwasanaeth |
---|---|
Arlwyo | Gweithredol |
Glanhau | Gweithredol |
Trydanol | Gweithredol |
Gwresogi | ³Ò·É±ð¾±³Ù³ó°ù±ð»å´Ç±ôÌýÌýÌýÌý |
Lifftiau | 1) Prif lifft Adeilad Stryd y Deon allan o wasanaeth. 2) Lifft platfform prif goridor ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau allan o wasanaeth |
Parcio | Gweithredol |
Diogelwch | Gweithredol |
Cyfleusterau Chwaraeon | Gweithredol |
¶Ùŵ°ù | Gweithredol |
Cyfleusterau Lles/Mannau Newid | Ìý³Ò·É±ð¾±³Ù³ó°ù±ð»å´Ç±ô |
Cynnal a Chadw wedi'i Drefnu
Ym misoedd Gorffennaf, Awst a Medi, bydd ein contractwr larwm tân CDS yn archwilio'r systemau larwm tân.
Mae'r rhai y bydd y gwaith yn effeithio arnynt yn uniongyrchol wedi cael gwybod ymlaen llaw gan Ddesg Gymorth Gwasanaethau’r Campws. Fodd bynnag, mae rhestr lawn o'r gwaith i’w gweld .
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Desg Gymorth Gwasanaethau Campws.
Fel rhan o'r gwaith ail-lunio parhaus yn sgil dymchwel Tŵr Alun Roberts, bydd project adnewyddu 20 wythnos yn dechrau yn Stryd y Deon ar 10 Mehefin 2024, i wella cyfleusterau labordai’r campws.
I hwyluso'r gwaith, caiff safle allanol ei osod yn y maes parcio y tu ôl i adeilad Stryd y Deon gyda hysbysfyrddau ac arwyddion, ar gyfer storio, sgipiau a pharcio contractwyr. Bydd peth aflonyddwch ar 4ydd llawr yr adeilad tra bydd y gwaith yn cael ei wneud; fodd bynnag, caiff rhywfaint o’r gwaith ei wneud ar y penwythnos i leihau’r aflonyddwch, lle bo modd.
Bydd y llwybrau i mewn ac allan o’r adeilad yn aros yr un fath, a bydd defnyddwyr yr adeilad yn derbyn hysbysiadau pellach os bydd hynny’n newid yn ystod y gwaith.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch ag l.roberts@bangor.ac.uk neu Desg Gymorth Gwasanaethau’r Campws.
Bydd Asesiadau Risg Tân yn cael eu cynnal yn y lleoliadau canlynol rhwng Awst 19 a 31 Awst:
- Canolfan Brailsford
- Prif Adeilad y Celfyddydau a'r Llyfrgell Newydd
- Storfa doddydd Safle Gwyddoniaeth
Nid yw'r asesiadau yn ymwthiol a ni fydd angen aflonyddu ar unrhyw adeiladwaith, mi fydd ar y cyfan yn ymarfer gweledol yn unig. Os oes angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Desg Gymorth Gwasanaethau Campws.
Yn ystod mis Medi, bydd ein contractwr lifftiau yn cynnal archwiliadau angenrheidiol ar draws y campws.
Mae'r rhai y bydd y gwaith yn effeithio arnynt yn uniongyrchol wedi cael gwybod ymlaen llaw gan Ddesg Gymorth Gwasanaethau’r Campws. Fodd bynnag, mae rhestr lawn o'r gwaith i’w gweld .
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Desg Gymorth Gwasanaethau Campws.