Gyrfaoedd, Cyflogadwyedd ac eich dyfodol

Mae'r Brifysgol yn cynnig ystod eang o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio. Mae’n dod yn gynyddol bwysig yn y farchnad swyddi heddiw i ddatblygu eich sgiliau personol a gwella eich cyflogadwyedd tra byddwch yn y brifysgol.

Rydym yn dîm o weithwyr proffesiynol ac ymroddedig sydd wedi ymrwymo i'ch helpu i gyflawni eich potensial o ran gyrfa yn ystod eich cwrs ac ar ôl graddio.ÌýBoed yn archwilio eich opsiynau gyrfa, yn chwilio am brofiad gwaith, dod o hyd i swydd i raddedigion, neu sefydlu eich busnes eich hun, rydym yma i'ch helpu i ddatblygu eich cyflogadwyedd a gwireddu eich uchelgeisiau gyrfa.

Darganfyddwch sut y gallwn eich cefnogi tra byddwch yn astudio yma a hefyd beth i'w ddisgwyl os ydych yn ystyried astudio yma.

²Ñ²¹±ðÌýGwobr Cyflogadwyedd Å·ÃÀÐÔ°®Æ¬ÌýÌýyn gwrs ar-lein cynhwysfawr y gallwch ei wneud yn ôl eich cyflymder eich hun, gan fynd â chi trwy'r holl gamau y mae'n rhaid i chi eu cymryd i archwilio, paratoi a gwneud cais am eich gyrfa ddelfrydol, ac i adfyfyrio ar y profiadau y gellwch gymryd rhan ynddynt tra yn y Brifysgol i ddatblygu'ch cyflogadwyedd.

Mae'r Wobr ar agor i bawb a gall bod o fantais wrth chwilio am swydd ar ôl graddio.ÌýByddwch yn derbyn yr holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch ar sut i wneud cais am y GCB unwaith y byddwch wedi cofrestru fel myfyriwr yma a dechrau eich cwrs.

Mewn partneriaeth â rhaglen Menter trwy Ddylunio y Brifysgol, mae BUILT yn gystadleuaeth flynyddol sy’n agored i holl fyfyrwyr Prifysgol Å·ÃÀÐÔ°®Æ¬ lle mae cyfranogwyr ar draws yr holl ddisgyblaethau astudio a phob blwyddyn academaidd yn ffurfio timau o 5-10 i efelychu cwmni newydd ac i gynhyrchu syniadau a datblygu atebion ar gyfer her gymunedol benodol. Daw’r rhaglen i ben gyda’r timau’n cyflwyno eu syniadau i banel annibynnol, sy’n barnu pa dîm sydd wedi datblygu’r ateb mwyaf arloesol. Mae’r tîm buddugol yn derbyn cyllid a chefnogaeth i lansio a gweithredu eu cynnyrch neu wasanaeth, yn ogystal â mentoriaeth barhaus ac arweiniad gan arbenigwyr. Ìý
Ìý
Mae mentoriaid sy’n gyn-fyfyrwyr yn cefnogi pob tîm ar hyd y ffordd i fireinio eu syniadau a’u hatebion, ac o bosib datblygu prototeip o’r cynnyrch neu wasanaeth. Mae sesiynau dysgu ar gyfer pob tîm yn cael eu hwyluso gan y Brifysgol drwy’r rhaglen Menter trwy Ddylunio – cyfres ddeg wythnos o weithdai sy’n canolbwyntio ar ysbrydoliaeth, creadigrwydd, cynaliadwyedd ac ymwybyddiaeth fasnachol – mewn meysydd fel sut i ddatblygu cynllun busnes a hanfodion cynllunio ariannol.
Ìý
Mae BUILT yn ffordd wych o wella profiadau CV cyfranogwyr a chymwysterau cyflogadwyedd, gan fodloni gofynion y farchnad swyddi am feddwl arloesol a meddylfryd entrepreneuraidd.Ìý Trwy BUILT a Menter trwy Ddylunio, mae myfyrwyr yn datblygu ystod o sgiliau cyflogadwyedd, gan gynnwys gweithio mewn tîm, datrys problemau creadigol, cyfathrebu a sgiliau masnachol. Mae gweithio mewn tîm amlddisgyblaethol yn helpu cyfranogwyr i ddatblygu eu gallu i weithio gyda phobl o gefndiroedd a safbwyntiau gwahanol ac mae elfen arddangos a chyflwyno olaf yr her yn helpu i ddatblygu sgiliau siarad cyhoeddus a chyflwyno, sy’n werthfawr mewn llawer o yrfaoedd.

Darllenwch am wobrau 2024.

Mae'r flwyddyn leoliad yn rhoi cyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau gwerthfawr trwy weithio gyda sefydliad hunan-gyrchol sy'n berthnasol i'ch pwnc gradd.

Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad addas a'i drefnu i gyd-fynd â'ch gradd, a byddwch yn cael eich cefnogi drwy gydol y cyfnod gan aelod o staff o'ch Ysgol academaidd a Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol.

Mae myfyrwyr blaenorol a phresennol wedi gweithio gydag amrywiaeth eang o ddarparwyr lleoliadau, yn amrywio o gwmnïau preifat i sefydliadau addysgol, elusennau, awdurdodau'r llywodraeth a sefydliadau anllywodraethol. Mae myfyrwyr wedi cael profiad gwaith gyda chwmniau fel Santander, Siemens Healthineers, Coutts , Venue Cymru, WRU, BBC Cymru, Zip World a Gen2.

Mae ein myfyrwyr sydd wedi ymgymryd â blwyddyn leoliad wedi tynnu sylw at sut mae'r profiad wedi eu helpu i ddatblygu rhwydweithiau amhrisiadwy, hyder a phrofiad bywyd ynghyd â gwybodaeth a sgiliau pwnc sydd wedi rhoi hwb i'w cyflogadwyedd.

Sylwch: Y ffi ar gyfer yr holl leoliadau a blynyddoedd rhyngwladol ywÌý£1,350 (mynediad yn 2024).

CyswlltGyrfa ydy biwro cyflogaeth myfyrwyr y Brifysgol. Mae'n cynnig y cyfleoedd canlynol:

  • Swyddi i raddedigion - Lleol, Cenedlaethol a Rhyngwladol
  • Gwaith llawn a rhan-amser, parhaol a dros dro
  • Lleoliadau gwaith ac interniaethau
  • Cyfleoedd lleoliad
  • Cyfleoedd gwirfoddol

Gall myfyrwyr (a Graddedigion hyd at dair blynedd) hefyd ddefnyddio’r platfform i drefnu apwyntiadau gyrfaoedd a busnesau newydd, archebu lleoedd ar ein gweminarau a’n gweithdai, cwblhau gweithgareddau gwybodaeth, a llawer mwy.

I weld y cyfleoedd yma arÌýÌýmae angen i chi fewngofnodi gyda’ch cyfrif myfyriwr.

Proffil Mirain Glyn

Ffair Cyflogadwyedd

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?