Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Caiff yÌýcwrs byr,Ìýlefel 7Ìýrhan-amserÌýhwn ei gyflwyno ar ein campws ym Mangor.ÌýBydd pob sesiwn yn cael ei recordio felly mae croeso i ymgeiswyr ymuno a dilyn y cwrs o bell.
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?
Bydd y cwrs byr hwn yn addas i'r rhai sy'n gweithio gyda phobl nad ydynt efallai ‘n rhannu'r un diwylliant neu iaith. Bydd y cwrs yn trafod y ffordd orau o sicrhau bod hunaniaeth a diwylliant unigolyn yn cael eu deall a'u parchu ar adegau o argyfwng a gofal. Byddai'r cwrs DPP hwn yn ddefnyddiol i nyrsys, gweithwyr proffesiynol perthynol i Iechyd ac ymarferwyr Gofal Cymdeithasol
Pam astudio’r cwrs?
Mae cynnydd yn y sylw a niferoedd o bobl sydd yn perthyn i ddiwylliant lleiafrifol a gall y cwrs yma wella eich dealltwriaeth o sut i ddarparu gofal sydd yn parchu diwylliant.Ìý
Bydd cyfle i ddefnyddio'r ddarpariaeth i siaradwyr Cymraeg fel astudiaeth achos gan Ìýarchwilio syniadau a darpariaeth y Ìý'Cynnig Rhagweithiol', er mwyn gan sicrhau parch ac urddas i bobl sydd yn siaradwyr naturiol yn Gymraeg.Ìý
Byddwch hefyd yn archwilio technegau a dulliau ar gyfer gweithio'n effeithiol efo phobl â dementia a gofalwyr teulu mewn modd sy'n sensitif i’w ddiwylliant.
Ìý
Pa mor hir mae'r cwrs yn cymryd i'w gwblhau?
Mae'r modiwl hwn yn rhedeg yn rhan-amser dros 12 wythnos, fel arfer yn ystod ail semester y flwyddyn academaidd, ac mae'n cynnwys:
- 10 diwrnod astudio ar y campws neu ar-lein.
Ìý
ÌýY dyddiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 yw
- 23 Ebrill 2024
- 7 Mai 2024
- 14 Mai 2024
- 21 Mai 2024
- 28 Mai 2024
- 04 Mehefin 2024
- 11 Mehefin 2024
- 18 Mehefin 2024
- 2 Gorffennaf 2024
- 9 Gorffennaf 2024
Tiwtor
Catrin Hedd JonesÌý
Mae Dr Catrin Hedd Jones yn Seicolegydd Siartredig ac yn ddarlithydd Astudiaethau Dementia ym Mhrifysgol Å·ÃÀÐÔ°®Æ¬ ers 2016. Mae wedi gweithio fel ymchwilydd ar sawl prosiect gan gynnwys ymchwil i fanteision cynnig gweithdai Celfyddyd i bobl sydd yn byw efo dementia, effaith cefnogaeth ar ôl derbyn diagnosis ddementia a Phontio’r Cenedlaethau. Mae Catrin yn cyd-arwain gwaith datblygu dulliau ymchwil yn y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR), sy’n gydweithrediad rhwng Prifysgolion Å·ÃÀÐÔ°®Æ¬ ac Abertawe ac yn aelod o INTERDEM sef grŵp Ewropeaidd o ymchwilwyr sydd am wella gofal pobl sydd yn byw efo dementia. Mae wedi darparu hyfforddiant i Arolygwyr ac Ymarferwyr Gofal ar draws Cymru a chyhoeddi ymchwil i Senedd Cymru ar Ddementia.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae hwn yn gwrs byr rhan-amser ar lefel 7, sy’n cael ei gynnal ar ein campws ym Mangor.ÌýÌýBydd pob sesiwn yn cael ei recordio felly mae croeso i ymgeiswyr ymuno a dilyn y cwrs o bell.Ìý
Bydd y cwrs byr hwn yn eich galluogi i werthuso’r ddarpariaeth bresennol o arferion sydd yn sicrhau sensitifrwydd diwylliannol a chynhwysol wrth gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia.Ìý
Byddwch yn cael budd o brofiad arbenigwyr trwy brofiad i gynyddu ein dealltwriaeth o sut i sicrhau gofal Dementia sy'n parchu diwylliant. Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno cydsyniad o ddylanwadau cyd adrannau wrth sicrhau urddas a thrugaredd i bobl sydd yn perthyn i grŵp lleiafrifol mewn cymdeithas, gan gynnwys Iaith a Rhywioldeb. Byddwn yn defnyddio astudiaethau achos megis rôl y celfyddydau, crefydd a gweithredu'r Cynnig Rhagweithiol sy'n parchu anghenion unigolion
Ìý
Pam astudio’r cwrs?Ìý
Mae cynnydd yn y sylw a niferoedd o bobl sydd yn perthyn i ddiwylliant lleiafrifol a gall y cwrs yma wella eich dealltwriaeth o sut i ddarparu gofal sydd yn parchu diwylliant.Ìý
Bydd cyfle i ddefnyddio'r ddarpariaeth i siaradwyr Cymraeg fel astudiaeth achos gan Ìýarchwilio syniadau a darpariaeth y Ìý'Cynnig Rhagweithiol', er mwyn gan sicrhau parch ac urddas i bobl sydd yn siaradwyr naturiol yn Gymraeg.Ìý
Byddwch hefyd yn archwilio technegau a dulliau ar gyfer gweithio'n effeithiol efo phobl â dementia a gofalwyr teulu mewn modd sy'n sensitif i’w ddiwylliant.
Ìý
Beth fydd y dysgwr yn ei gael allan o’r cwrs?Ìý
Erbyn diwedd y cwrs hwn, bydd dysgwyr yn gallu:
- Dadansoddi'n feirniadol faterion yn ymwneud ac urddas, dewis a thrugarog yn y broses o ymgysylltu â phobl â dementia a/neu eu gofalwyr.
- Dadansoddi'n feirniadol fodelau damcaniaethol a safbwyntiau gwahanol ar ddementia er mwyn cynnal gwerthusiad annibynnol o’r ymchwil.
- Gwerthuso profiadau, problemau ac anghenion unigryw pobl sydd yn byw efo ddementia sydd yn rhan o grŵp lleiafrifol
- ÌýSyntheseiddio a chynnal gwerthusiad beirniadol Ìý ymagweddau gofal dementia i sicrhau cyfathrebu Ìýsensitif â phobl y mae dementia'n effeithio arnynt.
Ìý
Cost y Cwrs
- Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch ariannu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) aÌýbcu.nurseeducation@wales.nhs.uk.
- Mae'n bosibl y bydd cyfleoedd ariannu ar gael i rai sy'n gweithio'n lleol (h.y. yn ardaloedd gogledd Cymru a Phowys), cysylltwch â'r cydlynydd modiwl perthnasol am fanylion.
- Dylid cyfeirio pob ymholiad arall sy'n ymwneud â cheisiadau ac ariannu at gydlynydd y modiwl.
Ìý
Ewch i dudalenÌýFfioedd a Chyllid Ôl-raddedigÌýer mwyn cael gwybodaeth bellach.
Ìý
Gofynion Mynediad
Bydd angen i ymgeiswyr fod ag gradd israddedig 2:1 neu uwch sy'n gysylltiedig â'r maes ac o sefydliad Addysg Uwch cydnabyddedig.
Os nad ydych yn bodloni'r gofynion academaidd uchod ond bod gennych o leiaf tair blynedd o brofiad gwaith perthnasol a thystiolaeth o astudiaeth ddiweddar neu ddatblygiad proffesiynol (i ddangos eich gallu i astudio ar lefel 7) efallai y byddwn yn ystyried eich cais.
Cysylltwch ag Dr Catrin Hedd Jones (c.h.jones@bangor.ac.uk) i drafod ymhellach.
Ìý
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn einÌý
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau.
Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio Ôl-raddedig a Addysgir'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Modiwlau a Addysgir nad ydynt yn Graddio mewn Iechyd (NGGT/HEALTH) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl:ÌýGofal Dementia sy'n Ddiwylliannol Sensitif: y cod ywÌý NHS-4373. Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster ôl-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach).
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word.
Os ydych yn cael eichÌýariannu gan AaGIC / Bwrdd Iechyd, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau?ÌýNoddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido:ÌýBwrdd Iechyd
- Gwlad:ÌýY Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad?ÌýWedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys:ÌýFfioedd DysguÌýÌý
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn?ÌýDewiswch ‘ie’ * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o’r cyllid.ÌýOs hoffech gadarnhau ‘ie’ i’r cwestiwn hwn, ondÌýnad oesÌýgennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i’w uwchlwytho, gallwch uwchlwytho’ch ddogfen Word yma eto.
Os ydych ynÌýhunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol