Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae hwn yn gwrs byrⲵar lefel ôl-raddedigsy'n caelei gyflwynoar-lein.
Mae’r modiwl dysgu o bell hwn ar gyfer addysgwyr clinigol ac academaidd sy’n gweithio ym maes addysg i’r proffesiynau meddygol ac iechyd sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am sut mae cyrsiau a rhaglenni’n cael eu cynllunio. Gan ddechrau gydag egwyddorion cyntaf dylunio a chynllunio cwrs, mae'r modiwl yn eich arwain trwy'r camau i sicrhau bod y cwricwlwm wedi’i alinio’n dda er mwyn diwallu anghenion dysgwyr a rhanddeiliaid eraill.
Ar gyfer pwy mae'r Cwrs Byr hwn yn addas?
Fel arfer bydd ymgeiswyr yn ymarferwyr gofal iechyd cymwysedig, academyddion, staff gwasanaethau proffesiynol neu reolwyr addysg y GIG sydd â rhywfaint o brofiad o oruchwylio, addysgu neu gefnogi dysgwyr yn eu gwaith beunyddiol, a mynediad at hynny.
Pa mor hir mae'r cwrs yn cymryd i'w gwblhau?
Bydd y cwrs byr hwn yn dechrau fis Mai, a bydd yr addysgu wedi'i gwblhau erbyn mis Gorffennaf. Bydd angen cyflwyno aseiniadau erbyn diwedd Awst(manylion y dyddiadau i'w cadarnhau).
Gwybodaeth am asesiadau
Bydd asesiadau ar y cwrs byr hwn yn cynnwys:
- Cyflwyniad wedi'i Recordio (15 munud, i'w gyflwyno ar 4 Gorffennaf)
- Aseiniad astudiaeth achos (3,500 o eiriau, i'w gyhoeddi ar 8 Awst)
Tiwtor
Professor Catherine O’Keeffe
Mae Catherine wedi dal nifer o rolau uwch mewn addysg ôl-raddedig meddygol ac iechyd y proffesiynau. Mae ei gwaith wedi cynnwys arwain mentrau datblygu cyfadran a chymorth proffesiynol yn ogystal ag ymchwil ac addysgu mewn addysg uwch yn y maes hwn. Hyfforddodd Catherine fel nyrs yn wreiddiol a gweithiodd am flynyddoedd lawer yn rhyngwladol ym maes addysg proffesiynau iechyd cyn ymgartrefu yn y DU. Mae diddordebau addysgu ac ymchwil Catherine wedi canolbwyntio ar addysg ryngbroffesiynol a phroffesiynoldeb. Mae gwobrau diweddar yn cynnwys Prif Gymrawd yr Academi Addysg Uwch a Gwobr Addysg Cyfadran UCL am Gymorth Academaidd. Mae Catherine yn Athro Emeritws mewn Addysg Feddygol, UCL ac yn gweithio gydag Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ar raglenni datblygu cyfadran.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae rhaglenni’r proffesiynau meddygol ac iechyd fel arfer yn seiliedig ar fframwaith cenedlaethol neu fframwaith sy’n benodol i’r disgyblaeth pwnc o safonau a chanlyniadau. Nod y modiwl hwn yw rhoi i fyfyrwyr y sgiliau a'r wybodaeth ddamcaniaethol i gynllunio, dylunio a gwerthuso sesiynau, cyrsiau a rhaglenni unigol mewn addysg i’r proffesiynau meddygol ac iechyd er mwyn diwallu anghenion rhanddeiliaid amrywiol.
Mae 10 uned (un yr wythnos) a all ymdrin â’r pynciau canlynol:
- Rhannu dealltwriaeth o'r hyn sy'n gyfystyr â 'chwricwlwm'
- Y cyd-destun gwleidyddol ac addysgol ar gyfer cynllunio a datblygu cwricwla
- Dulliau, modelau a strwythurau’n ymwneud â’r cwricwlwm mewn addysg i’r proffesiynau meddygol ac iechyd
- Ymchwil a theori’n ymwneud â’r cwricwlwm
- Cylch cynllunio a dylunio cwricwlwm
- Cynllunio cyrsiau a sesiynau
- Cynllunio gwersi
- Gwerthuso a sicrhau ansawdd
- Cyflwyniad i Arweinyddiaeth wrth Ddatblygu Cwricwlwm ac Addysg i’r Proffesiynau Meddygol ac Iechyd
- Cyflwyniad i Ddeallusrwydd Artiffisial mewn cwricwla ac Addysg i’r Proffesiynau Meddygol ac Iechyd
- Cyflwyniad i addysg ryngbroffesiynol mewn Addysg i’r Proffesiynau Meddygol ac Iechyd, a datblygu cwricwlwm
- Ysgrifennu sylwebaethau adfyfyriol a mapio i feini prawf AdvanceHE
- Cyflwyniad i astudio ac ysgrifennu ar lefel 'M'
Ar ôl cwblhau'r cwrs byr hwn yn llwyddiannus, dylai myfyrwyr allu gwneud y canlynol:
- Gwerthuso'n feirniadol yr egwyddorion a'r damcaniaethau dysgu allweddol sy'n sail i ddylunio'r cwricwlwm a chynllunio gwersi
- Arddangos hunangyfeiriad a gwreiddioldeb wrth werthuso'r defnydd o wahanol fodelau a strwythurau cwricwlwm, eu buddion ac anfanteision.
- Cyfuno a gwerthuso damcaniaethau dysgu mewn perthynas â chynllun cwrs, gosod canlyniadau dysgu a dylunio cynllun gwers
- Myfyrio ar theori, tystiolaeth ac ymarfer nodwch eich anghenion dysgu addysgol eich hun mewn perthynas â datblygu'r cwricwlwm
Cost y Cwrs
Y gost ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 yw £1,112
Ewch i dudalenFfioedd a Chyllid Ôl-raddediger mwyn cael gwybodaeth bellach.
Gofynion Mynediad
Fel arfer bydd ymgeiswyr yn ymarferwyr gofal iechyd cymwysedig, academyddion, staff gwasanaethau proffesiynol neu reolwyr addysg y GIG sydd â rhywfaint o brofiad o oruchwylio, addysgu neu gefnogi dysgwyr yn eu gwaith beunyddiol, a mynediad at hynny.
Bydd gradd, cymhwyster ar lefel gradd, neu gymhwyster proffesiynol a ategir gan brofiad perthnasol fel rheol yn rhan o broffil yr ymgeisydd. Derbynnir ymgeiswyr sydd â gradd 2.2 neu uwch
Efallai y gofynnwn i’r ymgeiswyr ymuno mewn cyfweliad ar-lein gydag aelod o dîm y rhaglen.
Caiff cymwysterau gradd/lefel gradd ymgeiswyr o'r Deyrnas Unedig eu hasesu gan ddefnyddio Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch yr ASA a gofynion Prifysgol ŷƬ. Bydd angen i gymwysterau proffesiynol gael eu cydnabod gan y corff rheoleiddio proffesiynol priodol e.e. CMC; UKCC; HCPC; Sefydliad Rheolaeth Weinyddol (IAM). Caiff profiad addysgu ei asesu yn ôl y datganiad cefnogi a gyflwynir a chyfweliad ar-lein os oes angen.
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau
Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch'Ôl-raddedig a addysgir nad yw’n graddio’.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch 'Non-graduating Taught Modules in Medical Sciences (NGGT/MS)' Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl:Cwricwlwm mewn Addysg i’r Proffesiynau Meddygol ac Iechyd: y cod yw(MSE-4014). Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster ôl-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach)
(nid oes angen darparu manylion yma)
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word
Os ydych yn cael eichariannu gan AaGIC / Bwrdd Iechyd, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau?Noddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido:Bwrdd Iechyd
- Gwlad:Y Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad?Wedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys:Ffioedd Dysgu
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn?Dewiswch ‘ie’ * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o’r cyllid.Os hoffech gadarnhau ‘ie’ i’r cwestiwn hwn, ondnad oesgennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i’w uwchlwytho, gallwch uwchlwytho’ch ddogfen Word yma eto.
Os ydych ynhunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol