Myfyrwyr yn gweithio ar laptops/ gliniadur

Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

MAES PWNC 脭L-RADDEDIG TRWY DDYSGU

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

Pam Astudio Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol?

Tra bod Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn un o bynciau mwyaf聽 poblogaidd gwyddorau cymdeithas, mae'r dull cymharol yn ymwneud 芒'r pwnc mewn modd mwy treiddgar.聽 Mae gennych y fantais o raglen hyblyg sy'n eich galluogi chi i ddatblygu gwedd ryngwladol a chymharol ar drosedd a chyfiawnder drwy ddulliau聽 traws-genedlaethol ac astudiaethau achos ar gymdeithasau eraill a / neu faterion blaenllaw ym maes troseddeg a chyfraith gyfoes.

Mae'r MA Troseddeg Gymharol a Chyfiawnder Troseddol yn ymdrin 芒'r problemau cymhleth sy'n codi ym maes troseddu, cyfiawnder a mynd ar drywydd cyfiawnder troseddol yn y byd sydd ohoni, gan astudio pynciau sy'n cynnwys troseddau cyfundrefnol rhyngwladol, troseddau bywyd gwyllt, masnachu pobl, terfysgaeth, yn ogystal ag ymatebion cenedlaethol i'r troseddau hyn trwy blismona trawswladol a byd-eang a ffurfiau rhyngwladol ar gyfiawnder y Llys Troseddol Rhyngwladol a chyfiawnder trawswladol. Mae'n rhoi cyfle i chi astudio datblygiadau beirniadol, dadleuon ac ymatebion ym maes trosedd a chyfiawnder troseddol. Mae'r materion sy'n codi ym maes troseddu a chyfiawnder heddiw yn cyflwyno heriau newydd i gyfreithlondeb, diogelwch a chyfiawnder cymdeithasol. Mae ein MA Troseddeg Gymharol a Chyfiawnder Troseddol yn caniat谩u i chi astudio鈥檙 heriau hynny mewn cyd-destunau lleol, rhyngwladol a byd-eang, gan ymdrin 芒 theori ac ymchwil er mwyn deall ac ymateb i鈥檙 heriau hynny.

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

Mae'r cwrs hwn yn eich paratoi at amrywiaeth eang o swyddi gan gynnwys:

  • Asiantaethau gweithredu'r gyfraith: yr heddlu, tollau, y gwasanaeth carchardai.
  • Gweinyddiaeth gyhoeddus: gan gynnwys unedau atal troseddau, rheoli troseddwyr, gweinyddiaeth gyffredinol, sefydliadau rhyngwladol.
  • Cymdeithasau gwleidyddol, gweithio i aelodau鈥檙 senedd a grwpiau lob茂o sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 system gyfiawnder troseddol a materion yn ymwneud 芒 chyfiawnder cymdeithasol a鈥檙 gyfraith yn eu hystyr ehangaf.
  • Sefydliadau ymchwil, ymchwilio i faterion troseddegol a chymdeithasegol.
  • Sefydliadau academaidd fel prifysgolion.

*Sylwer y gallai fod angen astudiaethau / hyfforddiant / cymwysterau pellach ar gyfer rhai llwybrau gyrfa proffesiynol.

Ein Hymchwil o fewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

Mae staff o fewn y maes Gwyddorau Cymdeithas yn darparu amgylchedd cyffrous a chefnogol ar gyfer hyfforddiant 么l-radd. Mae'r pwyslais ar grwpiau bach, cysylltiadau gwaith agos rhwng myfyrwyr a goruchwylwyr ymchwil, a datblygu cyfranogiad proffesiynol llawn yn y maes pwnc.聽聽 Mae ymchwil ym maes Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ym Mangor yn canolbwyntio ar astudiaeth gymharol ar nifer o lefelau trawsddiwylliannol: cymariaethau cenedlaethol, rhyngwladol a gwledig-trefol yw tair o'r ffyrdd pwysicaf o wneud gwaith cymharol ym maes Troseddeg. Yn achos myfyrwyr ymchwil, gallwn ddarparu rhaglen hyfforddiant ymchwil lawn a goruchwyliaeth arbenigol o ansawdd uchel ar draws sbectrwm eang o bynciau.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you鈥檙e visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?